Ynys Echni

Yn gyfoeth o Fywyd Gwyllt – Yn llawn Hanes

Mae gan Ynys Echni gymeriad unigryw – mae’n lle gwyllt, arunig â golygfeydd godidog o’r Ynys i arfordiroedd Cymru a Lloegr. Gwta ½ milltir o led, mae’r Ynys fechan hon yn dlws cudd ym Môr Hafren. Mae Ynys Echni yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Warchodfa Natur Leol.

Mae Project Ynys Echni yn gwarchod nodweddion naturiol a diwylliannol yr Ynys, o laswelltir arforol i farics Fictoraidd, o gytrefi adar môr i fynceri rhyfel.

Ynys Echni – Cerdded Drwy Amser

Ar gyfer y cyfnod rhwng 2021 a 2024, mae Ynys Echni wedi cael arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i gyflawni’r prosiect cyffrous hwn. Mae gan y prosiect dri phrif bartner – Cyngor Caerdydd; y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar; a Chymdeithas Ynys Echni, elusen sy’n cefnogi’r ynys gyda chymorth gwirfoddol.

Mae tri phrif nod i’r prosiect:

  • Natur – rydym am sicrhau bod bywyd gwyllt a chynefinoedd yr ynys yn derbyn gofal cystal â phosibl
  • Treftadaeth – rydym am adfer a chynnal mwy o dreftadaeth adeiledig yr ynys
  • Pobl – rydym am ymgysylltu â chynulleidfa fwy a mwy amrywiol gyda’r ynys a’i straeon, ar yr ynys ac ar y tir mawr, a chynyddu ein hymgysylltiad ar-lein a digidol

 

Byddwn yn cynnal rhaglen amrywiol o weithgareddau ar gyfer unigolion a grwpiau, y gallwch gael rhagor o wybodaeth amdanynt drwy ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol.

Gallwch ddysgu mwy am yr ynys a’r prosiect drwy wylio’r fideo isod, neu wylio’r fersiwn llawn o’r ffilm.

Social media

Flat Holm Island

It was great to see so many visitors on #FlatHolm at the weekend! Book your day trip now via our boat operators: @BayIslandWales @CardiffCruises #visitflatholm #HeritageFundCYM pic.twitter.com/4h9zSRktEe

Gweld hefyd