Skip to [ look again | Skip Navigation | Search | Home | ]
  English
Main Content Area

Dewch i Brofi Ynys Echni

Yn gyfoeth o fywyd gwyllt, yn llawn hanes

Dim ond 5 milltir o Gaerdydd a'r Barri, mae Ynys Echni yn fyd gwahanol â chyfoeth o hanes a bywyd gwyllt. Cewch eich syfrdanu gyda'r hyn sydd yno i'w ddarganfod.

Ers cyfnod yr Oesoedd Tywyll, mae Ynys Echni wedi bod yn encilfa i fynaich ac ers hynny mae wedi bod yn noddfa i Lychlynwyr, Eingl-Sacsoniaid, cloddwyr arian, smyglwyr a dioddefwyr colera. Yn gartref i'r fyddin yn y cyfnod Fictoraidd ac eto yn yr Ail Ryfel Byd, efallai ei fod yn fwyaf enwog am dderbyn y neges radio gyntaf ar draws y dŵr a anfonwyd gan Marconi ym 1897.

 
Ynys Echni Cardiff Harbour Authority VAQAS Cardiff Council